Children in class

Ein Ffurflenni, Canllawiau a Rhestrau Gwirio

yn Gymraeg

Home > Resources for Rights Respecting Schools > Resources > Forms, guides and checklists > Ein Ffurflenni, Canllawiau a Rhestrau Gwirio yn Gymraeg

Ein Ffurflenni, Canllawiau a Rhestrau Gwirio yn Gymraeg

Yma gallwch ddod o hyd i’n holl ffurflenni, canllawiau a rhestrau gwirio yn Gymraeg ar gyfer pob cam o’r Wobr.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch pa waith papur y dylech ei ddefnyddio, cysylltwch â’r Tîm Parchu Hawliau neu’ch Ymgynghorydd Proffesiynol.

Cyflwyno’r GYPH i gymuned eich ysgol

Gall y cyflwyniadau canlynol eich helpu i gyflwyno’r Wobr i’r plant, pobl ifanc, staff a llywodraethwyr yn eich ysgol chi.

Mesur eich man cychwyn

P’un ai ar lefel Efydd, Arian neu Aur, mae angen i ni werthuso ein gwaith i helpu i sicrhau ein bod ni’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant. Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut yr ydym yn gwerthuso effaith y Wobr a pha gymorth sydd ei hangen arnom o’ch ysgol i wneud hyn.

Mae’r ffurflenni casglu data newydd ar gael isod ac mae croeso i unrhyw ysgol eu defnyddio fel rhan o ddangos eu cynnydd eu hunain. Cysylltwch â’ch Ymgynghorydd Proffesiynol ag unrhyw ymholiadau.

Mae’r holiaduron hefyd ar gael ar-lein. Os hoffech chi wneud yr holiaduron ar-lein, cysylltwch â’ch Ymgynghorydd Proffesiynol, a all roi mynediad atynt. Mae fersiynau Cymraeg o’r dogfennau hyn yn dod yn fuan.

Llinynnau a Chanlyniadau o’r Wobr – ar gyfer Efydd, Arian ac Aur

Er mwyn i ysgol gyflawni yr achrediad, rhaid wrth dystiolaeth ei bod wedi cyrraedd tri llinyn yr Ysgol sy’n Parchu Hawliau. Mae ysgol yn defnyddio’r llinynnau hyn ac arweiniad arall a ddarparwyd i gynllunio a monitro’r cynnydd.

Ymweliadau achredu – ar gyfer Arian ac Aur

Mae’r Rhaglen Ymweliad Achredu yn darparu rhaglen awgrymiedig ar gyfer yr ymweliad achredu gan aseswr UNICEF ​​UK.

Efydd

Dyma’r prif ffurflenni a dogfennau y bydd eu hangen arnoch i weithio tuag at gam cyntaf Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau, Efydd: Ymrwymo i Hawliau.

Rhestr wirio Efydd

Mae’r rhestr wirio hon yn rhoi trosolwg cryno o’r hyn y mae’n rhaid i ysgol ei wneud i gyflawni Efydd, cam cyntaf y Wobr.

Cynllunio eich gweithredoedd

Rhaid i ysgolion gwblhau’r Cynllun Gweithredu Arian i adolygu eu sefyllfa bresennol a chynllunio’r hyn y byddant yn ei wneud i ddod yn un sydd yn parchu hawliau. Defnyddiwch y Cynllun Gweithredu: Arweiniad i’ch cefnogi.

Ffurflen Data Cyd-destun yr Ysgol

Nid oes angen hyn fel rhan o’r broses achredu ar gyfer Efydd. Fodd bynnag, cwblhewch y ffurflen â gwybodaeth o’r flwyddyn academaidd lawn ddiwethaf os nad ydych wedi gwneud eisoes, a’i dychwelyd at eich Ymgynghorydd Proffesiynol.

Arian

Dyma’r prif ffurflenni a dogfennau  y bydd eu hangen arnoch i weithio tuag at ail gam Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau, Arian: Ymwybodol o Hawliau.

Rhestr Wirio Arian

Mae’r rhestr wirio hon yn rhoi trosolwg cryno o’r hyn y mae’n rhaid i ysgol ei wneud i gyflawni Arian, ail gam y Wobr.

Llinynnau a Chanlyniadau y Wobr

Er mwyn i ysgol gyrraedd yr achrediad Arian: Ymwybodol o Hawliau, rhaid iddi ddangos tystiolaeth ei bod wedi cyrraedd y tri llinyn Ysgol sy’n Parchu Hawliau Arian. Mae ysgol yn defnyddio’r llinynnau hyn ac arweiniad arall a ddarparwyd i gynllunio a monitro’r cynnydd.

Cynllunio eich gweithredoedd

Defnyddiwch y ddogfen Cynllun Gweithredu Arian a gyflawnwyd ar gyfer yr achrediad Efydd er mwyn blaenoriaethu a chynnal gweithredoedd yn yr ysgol. Mae’r Cynllun Gweithredu Arian yn ddogfen ar y gweill, felly daliwch ati i ychwanegu camau ac adolygu eich sefyllfa bresennol i nodi effaith wrth barchu hawliau. Defnyddiwch y Cynllun Gweithredu: Arweiniad i’ch cefnogi.

Ffurflen Cynnydd a Gwerthuso

Gwerthuso’r Ysgol: Defnyddir y ffurflen Arian i ddangos cynnydd yr ysgol tuag at gwrdd â’r canlyniadau ar gyfer achrediad Arian: Ymwybyddiaeth Hawliau. Mae angen i ysgolion gwblhau’r ffurflen pan fyddant yn teimlo’n barod ar gyfer eu hymweliad.

Aur

Dyma’r prif ffurflenni a dogfennau y bydd eu hangen arnoch er mwyn gweithio tuag at drydydd cam, cam olaf y Wobr Ysgolion sydd yn Parchu Hawliau, Aur: Parchu Hawliau.

Rhestr wirio aur

Mae’r rhestr wirio hon yn rhoi trosolwg cryno o’r hyn y mae’n rhaid i ysgol ei wneud i gyflawni’r Aur, trydydd cam, sef cam olaf y Wobr.

Llinynnau a Chanlyniadau y Wobr

Er mwyn i ysgol gyrraedd yr achrediad Aur: Parchu Hawliau, rhaid iddi ddangos tystiolaeth ei bod wedi cyrraedd y tri llinyn Ysgol sy’n Parchu Hawliau ar lefel Aur. Mae ysgol yn defnyddio’r llinynnau hyn ac arweiniad arall a ddarparwyd i gynllunio a monitro’r cynnydd.

Cynllunio eich gweithredoedd

Defnyddiwch y ddogfen Cynllun Gweithredu ar gyfer Aur i flaenoriaethu a chynnal gweithredoedd yn yr ysgol. Mae’r Cynllun Gweithredu Arian yn ddogfen ar y gweill, felly daliwch ati i ychwanegu camau ac adolygu eich sefyllfa bresennol i nodi’r effaith wrth barchu hawliau. Defnyddiwch y Cynllun Gweithredu: Arweiniad i’ch cefnogi.

Ffurflen Cynnydd a Gwerthuso

Gwerthusiad yr Ysgol: Defnyddir y ffurflen Arian i ddangos cynnydd yr ysgol tuag at gwrdd â’r canlyniadau ar gyfer achrediad Arian: Ymwybyddiaeth Hawliau. Mae angen i ysgolion gwblhau’r ffurflen pan fyddant yn teimlo’n barod ar gyfer eu hymweliad.  Mae fersiwn Gymraeg o’r ddogfen hon yn dod yn fuan.

Gweld camgymeriad? E-bostiwch [email protected]

The Results: Welsh Government Consultation on Reasonable Punishment

Read more

Teaching and Learning Toolbox

Read more